Croeso i Dwyros. Maes gwersylla teuluol* sy’n edrych draw dros fae Aberdaron. Yn agored o fis Mawrth i fis Hydref, mae yma lecynau trydan a di-drydan i bebyll, faniau gwersylla a charafanau. Gweler y prisiau islaw.
*Nid ydym yn derbyn grwpiau mawr o bobl ifanc heb riant yn bresennol.



pa fath o lecyn?
llecyn heb drydan
Mae’n costio £25 y noson i garafán a faniau gwersylla, ac mae costau pebyll yn amrywio yn ôl y nifer y bobl sydd ynddynt: £15 i un person; £20 i ddau; ac £25 i fwy na dau.
LLECYN GYDA THRYDAN
Mae llecyn gyda thrydan yn costio £30 y noson, boed hynny’n garafán, yn fan wersylla neu’n babell. Mae gan y rhan fwyaf o lecynnau trydan gyflenwad dŵr a draen ar gyfer dŵr gwastraff.
Beth mae pobl yn ei ddweud:
“Maes gwersylla bendigedig. Safle gwych. Pobol clên a fan brecwast.”
– Mari Jones, Facebook, 07/22
“Lleoliad ysblennydd gyda golygfeydd gwych. Roedd y cyfleusterau yn lân ac yn daclus ac lawr lôn 10 munud i ffwrdd pentre bach hyfryd gyda 2 dafarn 1 siop pysgod a sglodion parlwr hufen iâ a becws.”
– Stuart Clive Hughes, 08/2021
“Lle bendigedig, croeso cynnes ac yn lan iawn. Yn cael ei ddefnyddio gan bobol 'lleol'. Cartrefol iawn. Mae digon I wneud yn yr ardal, cerdded, nofio a beicio. Dewis da o lefydd I fwyta yn y pentref a siop Sbar ar gyfer manion. Un o drysorau'r ardal hon. Mae'r pris yn dda a'r cyfleusterau yn lan a derbyniol y flwyddyn yma sef 2020.”
— Mennaw, UK Campsites 09/2020
“Lle braf. Awyrgylch Cymreig. Golygfeydd gwych.”
— Len, Facebook 09/2020
“Cyfleusterau glan iawn, lle gwych i wersylla , perchennog caredig iawn! Diolch yn Fawr.”
— Meinir, Facebook 08/2017