Bum munud i lawr y lôn mae Aberdaron, hen bentref bach pysgota sy’n swatio ym mhen draw’r penrhyn.  I bentref mor fach, mae yma bopeth ‘da chi angen: dwy dafarn, becws, tri chaffi, siop hufen iâ, canolfan ddiwylliannol, bwyty bwyd môr, bwyd i fynd a thraeth hir ac euraidd. 

 

Pethau i wneud

Mae digonedd o bethau i’w gwneud heb orfod hyd yn oed neidio ar fws – o gerdded o gwmpas yr arfordir i ddysgu syrffio, neu ddysgu ’chydig o’r hanes lleol.
Dyma flas o beth sydd ar gael.  

5e385f02-c752-4777-916f-d4cdf24a46ce.jpg

teithiau cerdded

Awydd mynd am dro? Mae ’na lwyth o lwybrau cerdded o amgylch y penrhyn - o deithiau trwy’r dydd, i deithiau mwy hamddenol. Mae un llwybr troed yn cychwyn union dros y ffordd i’r gwersyll. Dilynwch hwn i gyrraedd pen distaw o’r traeth, i gerdded yn eich blaen i Borth Meudwy neu i ymuno ȃ Llwybr Arfordir Cymru.

 
nicolien-botha-8u3DwWegWRI-unsplash.jpg

Gweithgareddau dwr

Neu be am ddal ton yn Aberdaron? Mae’r bae yn lle delfrydol a diogel ar gyfer pob math o weithgareddau dŵr yn cynnwys nofio, snorclo, corff-fyrddio, syrffio, caiacio, sgwba-blymio a hwylio. Bydd sesiynau hyfforddi caiacio yn cael eu trefnu o Borth y Swnt yn ystod yr haf.

kanan-khasmammadov-XWuNkZZUeBE-unsplash.jpg

Pysgota

Meddwl dal eich swper? Mae ’na lwyth o wahanol bysgod i’w dal o gwmpas y penrhyn - o ddraenogod môr a lledod oddi ar y traeth, i boloc a gwrachod oddi ar y creigiau. Gallwch hyd yn oed ddal cŵn brych, tôp a chonger yn nŵr dwfn blaen y penrhyn (i’r pysgotwyr profiadol yn eich plith).

 
P1270966-3.jpg

Gwylio adar

Ydych chi’n dda am adnabod bywyd gwyllt? Wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir, byddwch yn siŵr o weld amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt - yn cynnwys adar, gloÿnnod byw a madfallod. Mae bae Aberdaron hefyd yn gartref i forloi a dolffiniaid. Yn ystod misoedd yr haf daw nifer fawr o adar môr o’r cefnfor i nythu - fel y pȃl, llyrs, gwylog, yr wylan goesddu ac aderyn drycin y graig.