Croeso i Dwyros. Maes gwersylla braf a hamddenol, sy’n edrych draw dros fae Aberdaron. P’un ai a ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu cyfan, neu’n penderfynu codi pac am y penwythnos – mae croeso i bawb a’i babell neu garafán.

 

pa fath o lecyn?

 
DSC_0488 (2).JPG

llecyn heb drydan

Mae’n costio £25 y noson i garafán a faniau gwersylla, ac mae costau pebyll yn amrywio yn ôl y nifer y bobl sydd ynddynt: £15 i un person; £20 i ddau; ac £25 i fwy na dau.

 
DSC_0494 (1).JPG

LLECYN GYDA THRYDAN

Mae llecyn gyda thrydan yn costio £30 y noson, boed hynny’n garafán, yn fan wersylla neu’n babell. Mae gan y rhan fwyaf o lecynnau trydan gyflenwad dŵr a draen ar gyfer dŵr gwastraff.

Beth mae pobl yn ei ddweud:

 

“Maes gwersylla bendigedig. Safle gwych. Pobol clên a fan brecwast.”

– Mari Jones, Facebook, 07/22

“Lleoliad ysblennydd gyda golygfeydd gwych. Roedd y cyfleusterau yn lân ac yn daclus ac lawr lôn 10 munud i ffwrdd pentre bach hyfryd gyda 2 dafarn 1 siop pysgod a sglodion parlwr hufen iâ a becws.”

– Stuart Clive Hughes, 08/2021

“Lle bendigedig, croeso cynnes ac yn lan iawn. Yn cael ei ddefnyddio gan bobol 'lleol'. Cartrefol iawn. Mae digon I wneud yn yr ardal, cerdded, nofio a beicio. Dewis da o lefydd I fwyta yn y pentref a siop Sbar ar gyfer manion. Un o drysorau'r ardal hon. Mae'r pris yn dda a'r cyfleusterau yn lan a derbyniol y flwyddyn yma sef 2020.”

— Mennaw, UK Campsites 09/2020

“Lle braf. Awyrgylch Cymreig. Golygfeydd gwych.”

— Len, Facebook 09/2020

“Cyfleusterau glan iawn, lle gwych i wersylla , perchennog caredig iawn! Diolch yn Fawr.”

— Meinir, Facebook 08/2017