P1280962 (2).jpg

Gwybodaeth ddefnyddiol

 

SŴN

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y seibiant maen nhw’n ei haeddu, ’da ni’n gofyn yn garedig i bawb beidio â gwneud gormod o sŵn ar ôl 10pm.

 

talu

Fe allwch dalu wrth y drws gydag arian parod neu gerdyn banc, neu fe allwch drosglwyddo arian ar-lein.

CŴN

‘Da ni’n croesawu cŵn ond yn gofyn i chi eu cadw ar dennyn bob amser (a chofiwch glirio ar eu holau bob tro). 

 

ailgylchu

Mae mannau ailgylchu priodol ar y maes, felly gofynnwn yn garedig i bawb eu defnyddio gymaint â phosib.

CYRRAEDD A GADAEL

’Da ni fel arfer yn gofyn i bawb gyrraedd o tua hanner dydd ymlaen – sy’n golygu ein bod ni hefyd yn gofyn i chi adael tua’r un adeg.

 

BARBACIWS

Mae croeso i bawb gael barbeciws, cyn belled â’ch bod yn eu codi oddi ar ar y llawr ac yn cael gwared arnyn nhw’n ddiogel.

 
 

Beth sydd ar y maes?

Mae bloc toiledau sy’n cynnwys cawodydd poeth a sychwr gwallt. Mae ’na hefyd le i olchi a sychu dillad, lle i olchi llestri, yn ogystal â rhewgell i’w defnyddio fel y mynnoch. Mae ‘na hefyd ystafell gyda chyfleusterau ymolchi i bobl anabl a lle i newid clytiau babi.

Symbols_010.png
Symbols_020.png

Y CWT

Bydd Gwenan yn gweini tecawê o’r Cwt yn ystod gwyliau ysgolion – o goffi poeth i frecwast neu bwdin i de. Mai hi’n boblogaidd iawn felly bydd yn rhaid i chi godi cyn cŵn Caer i gael eich dwylo ar un o’i rholiau cig moch.

 
IMG_8060 (1).jpg
4c8edec1-ee45-48eb-a8f3-be1a890a3d4f (1).JPG